Christmas Bor(sic)[1] i'r dl.
Dly Wasg, dwl ei osgo,
A dwylaw gwyllt, dl o'i go';
Dirywiol wawdiwr awen,
Un diail byth, a dl ben,
Ar bob dl anfoesawl fu
Yn athronydd llyth'renu;
Y dilun fod, ail ni fu
I'r un dwl o'r hen deulu;
Rhoi'swn byg eirias yn boeth
O gylch hwn, y gwalch anoeth,
Olew a saim o'r palas hwn,
Yna'n dadol iawn y dodwn,
O fewn y glwyd fawn a glo,
A thunell ro'wn i'w thanio,
O goed, a gwellt, gydag us,
Rhoi uchel hwre iachus
A wnawn am gael gweled fflamio
Y "du" hwn, feirdd, ar dân a fo
Ymunwn bawb, mynwn ben
Ar ddirywiol fwrddwr awen;
Heddyw fe gyhoeddaf wyl
I gyrchu at y gorchwyl:
Yrwan feirdd, GWRTHEYRN fydd
Yn dra siriol drysorydd,
I'r symudiad ofnadwy,
Ei ddawn i fewn ddena fwy,
O'r llon gewri llengarawl,
A gwyr doeth i losgi'r dl!
Tudalen:Murmuron Awen.djvu/102
Gwedd
Gwirwyd y dudalen hon