Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Murmuron Awen.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Gadewch i'r rhai hyn fyn'd ymaith,—
Mi addewais wrth fy Nhad,
Yn y Cyngor foreu 'r Anfaeth,—
Ymladd brwydr eu rhyddhad;
Gadewch iddynt hwy fyn'd ymaith,—
Tra fwy'n gwisgo coron gwawd,
Tra f'wy'n agor gwaredigaeth
Lydan, i bechadur tlawd."

"Gadewch i'r rhai hyn fyn'd ymaith,"—
Fydd ei eiriau tyner Ef,
Pan y daw mewn goruchafiaeth
Eilwaith ar gymylau 'r nef:
"Gadewch i'r rhai hyn fyn'd ymaith,—
Telais bridwerth eu rhyddhad,
Ewch i mewn i'ch etifeddiaeth,
Fendigedig blant fy Nhad."


Dalen o Adgofion Mebyd.

Fe safai'r bwthyn bychan,
Ar lan afonig fach,
Lle treuliais ddyddiau dyddan
Boreuddydd mebyd iach:
Nid oedd addurnol dlysni
Yn ei amgylchu ef,
Na dim yn ei gysgodi
Ond hen Fasarnen gref.