Gwirwyd y dudalen hon
Hwy ganent am y tlysa',
A chredwn ar y pryd
Fod adar "Waen y Bala"
Yn canu yno i gyd,
Mi dynais nyth y Fronfraith
Wrth fyn'd i Dy'n y Ffridd,
Ond gwnaeth y weithred ddiffaith,
Fy ngalon lon yn brudd;
Bum am wythnosau wedyn,
Yn methu syllu 'n syth,
Yn ngwyneb 'run aderyn,
Wrth gofio am y nyth.
Mi bechais wedi hyny,
Ond cofiaf tra f'wyf byw,
Fy mod yn methu cysgu
'Rol tynu nyth y "Dryw;"
Ond "Robin" oedd fy ffefryn,
A'r deryn mwya'i fri,
Am fod ei enw'n "Robin,"
Run fath a f'enw i.
Rhyw anuwiolion duon,
Feddyliwn oedd y brain,
A llawen fyddai nghalon
Wrth dynu nythod rhain;
Ysguthan, a Phiogen
Oedd hefyd yn y set,
A chredwn fod Cornchwiglen
Yn ceisio dwyn fy het.