Gwirwyd y dudalen hon
Hen athraw bendigedig,
Ni cha'dd y Nefoedd sant,
A'i enw'n fwy parchedig
Yn nghofion tyner plant.
Ac os oes rhydd gymundeb
Cydrhwng y byd a'r Nef,
Genhadon anfarwoldeb,
Dywedwch wrtho ef,
Fod llu o'i blant sydd heddyw
Ar hyd a lled y byd,
Yn caru gwel'd ei enw,—
Yn cofio ato i gyd.
Gwnawn ein dyledswydd bydd pob peth yn iawn.
Alaw, "Breuddwyd y Bardd.[1]
EISTEDDAIS i lawr mewn unigedd,
Myfyriais ar helynt fy oes,
Meddyliais fod bywyd yn wagedd—
Cynlluniau rhagluniaeth yn groes:
Gobeithion a phryder, gofidiau a phleser,
Ar lwybrau ein bywyd yn gymysg a gawn,
Ond gwnawn ein dyledswydd, bydd pobpeth yn iawn.
- ↑ "Dywed Ceiriog na wyddai ef am neb ond ei gyfaill Idris Fychan yn medru yr hen Alaw odidog hon; pa nifer sydd yn ei medru heddyw, tybed?