Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Murmuron Awen.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Neges gwahanol bobl yn nhy addoliad.

MAE rhai yn myn'd o ran arferiad
Rhai i chwerthin ac i siarad,
Rhai i bwyso ac i fesur,
Rhai i basio amser segur,
Rhai er mwyn eu llwyddiant bydol,
A manteision cyffredinol,
Rhai i dwyllo a gwychder dillad,
Ambell un i chwilio am gariad.

Rhai i edrych ar eu gilydd,
Rhai i farnu'r ffasiwn newydd,
Rhai i brisio aur a gemau
Y menywod, a'u rubanau,
Rhai i foddio meistr a meistres,
Rhai i ddweud a chlywed hanes,
Rhai i foddio'r gwr bonheddig,
A'r offeiriad gwir barchedig.

Rhai am lo, a rhai am fara,
Rhai am wlanen at y gaua',
Rhai i besychu ac i duchan,
Rhai i gysgu a phendwmpian,
Rhai er mwyn i'r gwyddfodolion
Wybod eu bod hwy'n gantorion,
Rhai i ddiolch am y profiad
Nad ydynt hwy fel pechaduriaid.