Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Murmuron Awen.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Breuddwyd Mammon ap Gwyddon.

Y TESTYN yw breuddwyd, sef breuddwyd cribddeiliwr,
Ei enw yw Mammon ap Gwyddon, ap swynwr,
Masnachwr mewn diod wenwynig, hudolus,
Magwraeth i wyniau, a nwydau cynhyrfus;
Mae Mammon ap Gwyddon yn ddyn doeth a phwysig
Yn ngolwg y byd, ac yn aelod eglwysig,
Ond cafodd un noswaith ryw freuddwyd dieithriol
Nes oerodd ei waed yn ei galon ragrithiol.

O amgylch y gwely lle cysgai y cadno,
'Roedd goleu brwmstanaidd, glas-welw,yn fflamio,
Ac yn y glas-welw oleuni gelynol,
'Roedd Satan yn eistedd fel teyrn ymherodrol;
'Roedd llyfr o dân yn ei balfau ewinog,
Ac ynddo 'roedd enwau cribddeilwyr cyfoethog,
A Mammon ap Gwyddon a grynai fel deilen,
Wrth weled y llyfr a'r danllyd ysgrifen.

Y Pharaoh haiarnaidd oedd lwfr a digalon,
Yn nghwmni brwmstanaidd yr hen Apolyon;
O'r diwedd gofynodd mewn geiriau toredig,
Beth ydoedd cynwysiad yr ysgrif losgedig?
A Satan atebodd, "Ti Mammon ap Gwyddon,
Wyt un o'm blaenoriaid yn mysg dy gyd-ddynion,
Ac i ti, mae'n weddus egluro dirgelion,
A thywyll gyfrinach uffernol ellyllon.