Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Murmuron Awen.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwerthfawredd addysg oedd ei bwnc,
Ond gwelodd pawb yn fuan
Na fedrai Saesneg na Chymraeg,—
Ond—yr oedd ganddo arian.

Mewn cwrdd dirwestol clywais ddyn
Yn diystyru'r meddwyn,
Ond 'roedd y dyn bob dydd ei hun,
Yn arfer cym'ryd gwydryn;
A gwyddai pawb nad oedd ei druth
Ond twyll a rhagrith aflan.
Ac mai rhagrithiwr oedd y dyn,—
Ond—yr oedd ganddo arian.

Dewiswyd Mr. Jones i fod
Yn flaenor yn yr eglwys,
Ond gwyddai pawb mai nid efe
Oedd yr un mwyaf cymwys;
'Roedd ei gymeriad fel a'r fel,
Ac 'r oedd mor ddwl a phentan,
'Roedd pawb yn gwybod hyny'n iawn,—
Ond yr oedd ganddo arian.

Fe urddwyd coeg foneddwr balch
Yn Ofydd mewn Eisteddfod,
Gofynwyd beth 'roes iddo'r hawl?
Ond nid oedd neb yn gwybod;
A dweyd y gwir yn glir a phlaen.
Ni wyddai'r dyn ei hunan,
A chwarddai 'n braf am ben y lol,—
Ond—yr oedd ganddo arian.