Gwirwyd y dudalen hon
Cwyn y bardd am Feirion.
(Penillion Telyn.)
YN iach i chwerw boen a chur
A llafur yn Llynlleifiad,
Ymado wnaf cyn myn'd yn hen—
Mae'r awen ar ddirywiad;
Meirionydd lán yw'r fan i fyw,
Meirionydd yw fy nghariad."
Yn iach i dref y niwl a'r mwg,
A mwllwg sydd yn mallu
Pob deilen werdd, a cherdd a chân,
A diddan hwyl prydyddu:
Mi hoffwn fyn'd o le fel hyn,
I Feirion cyn y foru.
'Rwyf wedi blino ar fy myd
Dan benyd yma beunydd,
Nid am y byd y mae fy serch
Ond am ryw lanerch lonydd,
Yn nghanol gwlad mewn awyr glir
Ar fryniau Sir Feirionydd.
Hiraethu mae yr awen flin
Am rywle 'n min y mynydd,
A than a bwyd mewn bwthyn bach
Yn mryniau iach Meirionydd;
O swn y byd, mi weuwn bill,
Mi ganwn benill beunydd.