Gwirwyd y dudalen hon
Ci y Bugail.
ER cof am Cymro, Cymro'r ci,
O uchel waed ac uchel fri;
Ei achau sydd ry faith i mi
I'w rhoi i lawr yn daclus;
'Roedd ef yn wyr i Mot Bryn Rhudd,
A nai i Pero Ty'nyffridd,—
Cwn anghyffredin yn eu dydd
Am drin y defaid barus.
A chadwai Cymro, fel ci call,
Urddasol fri ei hil heb wall,
'Roedd ei ffyddlondeb yn ddiball,
'Roedd hefyd wedi graddio,
Ac enill ei M. A. er's tro,
Ni phasiodd 'run yn uwch na fo,
Ac fe edrychai cwn y fro,
I fynu dipyn arno.
'Roedd Cymro hefyd, fel ei daid,
Yn ben ymladdwr pan fa'i rhaid,
A llawer gwaith cymerodd blaid
Y gwanaf mewn ymrafel;
Ond ni fu'n euog yn ei oes
O ddechreu ffrae na chweryl croes,
'Roedd wedi dysgu deddfau moes,
Ac hefyd yn eu harddel.