Teulu'r Glep.
OSODWYD fy nhrigfod yn mhentref anghydfod
Ac felly 'rwy nabod y teulu yn dda,
Yn llety cenfigen dan nawdd Modryb Modlen
Y cwrddant yn llawen drwy'r gauaf a'r ha',
A charia'r hil glepiog eu chwedlau celwyddog
Yn gyson a selog i Modlen bob dydd,
Ac fe ddaw y diafol i'r cwrdd yn bersonol,
I'w gwneyd yn fwy gwrol i siarad yn rhydd.
Un fudr aflawen a diog yw Modlen,
Yn nod ar ei thalcen mae malais a brad,
Mae'n ddrych o anwiredd, a'i gwallt am ei danedd
Yn bwrw llysnafedd ar bawb yn y wlad;
Mae begws Ty Pella, a Sian y Pen Isa,
A merch y Ty Nesa bob amser wrth law,
Ac os bydd ystraeon celwyddog yn brinion
Bydd Modlen yn anfon am Shoned Ty Draw
Ac wedy'n y Cwmni ddechreua ymloni,
A Modlen yn porthi wrth dywallt y te,
Dylifa ystraeon-datguddir dirgelion,
A theimla pob calon yn awr yn ei lle;
Ond tystiant yn unol mai peth anymunol,
Yw siarad am bobol-er hyny fod si,
Fod merch Dafydd Evan yn hwnw iawn 'rwan,
A'i chariad mewn ffwdan yn myn'd ar ei spri.