Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Murmuron Awen.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aeth plant yr ysgol, dyrfa hardd,
Ond prudd eu gwedd,
I gychwyn Lizzie fach i'r bedd;
A threiglodd gloewon ddagrau prudd
Dros ruddiau gloewon fel y dydd,
Wrth gychwyn yr enethig gain,
I dawel fedd ei thaid a'i nhain;
Ei hargel fan,
Yn llwch y Llan,
Enyna gofion serch yn fflam
Yn nghalon gynes tad a mam.

Hi ganodd lawer yn y byd,
O fawl i Dduw,
Yn odlau byw,
Canu i "roddwr pob daioni,"
Brenin nef, a thad goleuni,"
Aeth yn ddiofn,
Trwy'r afon ddofn,
Ac ar y lan yr ochr draw
Rhoed telyn bywyd yn ei llaw;
'Roedd swn cyfriniol gwynfyd iach
Yn llais melodaidd Lizzie fach:
Pan yma'n canu gyda'r plant,
Tarawai nodau telyn sant,
Dan ganu o hyd,
Hi aeth trwy'r byd,
Ond mwyach, cana uwchlaw poen,
Gerbron gorseddfainc Duw a'r Oen.