Gwrando weddi'r edifeiriol
Ar y llawr, Waredwr hael,
Cofia'r addewidion mawrion
Roddaist i bechadur gwael.
Addfwyn Iesu, cofia'r taliad,
Cofia'r iawn anfeidrol ddrud,
Mor angerddol oedd dy gariad
Ataf pan yn prynu'r byd;
'Rwyf yn euog, ac yn ofni
Heddyw yn y dyfnder mawr,
Geidwad dyn, ti elli godi'r
"Eiddil yn goncwerwr mawr."
Addfwyn Iesu, rho oleuni,
Chwal y niwl sy'n cuddio'r nen,
Dangos di dy haeddiant i mi,
Brysia ddod i rwygo'r llen;
Rho gydwybod wedi i chlirio
A'i thawelu yn dy waed,
Yn y dyfnder gad i'm deimlo
Craig yr Oesoedd dan fy nhraed.
Addfwyn Iesu, 'rwyf yn teimlo
Grym dy addewidion drud.
Dal fy enaid byth heb sigio—
Aros gyda fi o hyd;
Paid am gadael, addfwyn Iesu,
'N unig mewn tywyllwch mawr,
Dwg fy enaid i oleuni,
Pur oleuni dwyfol wawr.