Gwirwyd y dudalen hon
Tri Darlun.
Beth yw'r ddaear? Planed hyfryd,
Rhan o greadigaeth Duw,
Man ar drothwy tragwyddolfyd,
Lle mae dyn yn dechreu byw,
Byw i hau'r hyn fydd i'w fedi
Yn mhen oesoedd wedi hyn,
Ac wrth fyw yn ymddadblygu'n
Ellyll du, neu'n angel gwyn.
Beth yw uffern? Lle i gydwybod
Edliw 'r holl rybuddion roes,
Man i ddyn gael ail gyfarfod
Gyda holl bechodau 'i oes;
Rhyw dragwyddol ychwanegiad
O'r anuwiol, farwol haint,
Carchar Duw i roi gwallgofiaid
Moesol, oddiar ffordd ei saint.
Beth yw'r nefoedd? Lle i feddwl
Dyn ymagor byth, a byw,
Byw heb bechod nac un cwmwl
Yn cysgodi gorsedd Duw;
Gwlad i enaid ymddadblygu,—
Gyda meddwl pur, di-len,
Yn tragwyddol ymeangu
Yn ngoleuni'r Orsedd wen.