Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Murmuron Awen.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A thyfant i fyny heb wybod beth yw,
Llawenydd, na gobaith, nac addysg, na Duw: .
Rhyw anaf diddiwedd, a nos, hirnos oer,
Sy' ar AELWYD Y MEDDWYN, heb seren na lloer:
Ymgauodd anobaith o amgylch y fan
Yn fôr o drueni, heb ynys na glan.

Ddirwestwyr parchedig, pain sefwch yn syn,
A mudion, yn ngolwg aelwydydd fel hyn?
Goleuwch y ganwyll, ysgubwch y ty,
Mae darnau o arian o'ch amgylch yn llu;
A chofiwch fod argraff a delw eich Duw
Ar enaid y meddwyn aflanaf yn fyw:
Chwi foneddigesau, rhai diwyll a hardd,
Sy'n hoffi dychnygion gwyllt Dante y bardd,
Rhowch heibio y llyfr,rhowch heibio eich hurddas
Mae AELWYD Y MEDDWYN yn ymyl eich palas:
Heb gymorth 'run bardd i roi lliw ar y darlun,
Cewch drem ar inferno ar Aelwyd y Meddwyn.


Ymson y meddwyn ar lan y bedd.

RWY'N cofio fy mhriod yn wyryf dlos,
A'i mynwes yn llawn gobeithion,
'Rwy'n cofio ei harwain at allor serch,
Gan addaw ei charu'n ffyddlon;
Yr wy'n cofio fy nghartref dedwydd llon,
A fy mhlant a'u llygaid gloewon,
Yn chwareu o fy amgylch ar aelwyd glyd,
A'u gwenau fel engyl tirion.