Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Murmuron Awen.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mewn Cyrddau Llenyddol daeth allan yn awr,
Fel awdwr galluog, a chwyddodd yn fawr;
A cha'dd haner coron am englyn ryw dro,
Er na wyddai fwy am gynghanedd na llo.

Ond nid yw ein harwr yn ddall nac yn bŵl,
Chwi wnewch gamgymeriad os cym'rwch e'n ffwl;
Mae'n gweled gryn dipyn yn mhellach na'i drwyn,
A gwyr sut i drefnu'r hyn mae yn ei ddwyn.

Gall osod ei ddelw aruchel ei hun
Ar draethawd, neu bryddest, waeth ganddo ef p'run,
Os englyn fydd eisiau, cewch hwnw 'n ddiwall,
I gyd yn gyfanwaith o waith hwn a'r llall.

Ni wyr y llenleidr am y drafferth a'r draul,
Y llafur a'r lludded mae'r gonest yn gael:
Am draethawd, neu bryddest, neu englyn, fe red
I'w cyrchu 'n ddidrafferth o shop ready made.

Drafferthus lenorion, a beirddion y byd;
I leidr eich ymenydd ymgrymwch i gyd;
A chofiwch i chwi gael eich geni i fod
Yn sarn iddo gyraedd anrhydedd a chlod.

I ddyn fel ein harwr na roddwch un sen,
Ymro'wch i'w seboni, mae'n fudr dros ben:
Mae'n hawdd iawn cael sebon, ond ofnaf yn siwr
Nad oes yn Llyn Tegid ddim digon o ddwr.