Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y bobl a ymfudant oddiyno yn lluosog, a'u gwasgariad yn mhell.

Ar fy ymweliad a'r Cwm, gelwais yn gyntaf yn Ponty-pridd. Ymddangosai Pont-y-pridd yn naturiol, heb lawer o gyfnewidiadau mewn ffordd o adeiladu. Mae yr hen bont fwäog dros yr afon yn edrych mor heinyf ag erioed, ac fel heb war-grymu odid i ddim.

Mae y Parch. E. Roberts, D. D., yn dal i edrych yn raenus a siriol. Mae yr eglwys o dan ei ofal yn dra llewyrchus a llwyddianus, a phawb, yn agos ac yn mhell, siarad yn barchus am Dr. Roberts. Pleser mawr i mi oedd cael ei gymdeithas werthfawr, ac aros yn ei dy dros ddwy noson. Mae ganddo breswylfod hyfryd yn agos i Drefforest. Gwrthddrych hardd ydyw gweinidog da yn byw mewn ty da.

Yn Pont-y-pridd y preswylia y Parch. B. Davies, cyhoeddwr Hanes y Bedyddwyr, gan y Parch. Joshua Thomas. Gwnaeth Mr. Davies wasanaeth gwerthfawr i'w enwad trwy ail gyhoeddi y gwaith anghydmarol hwnw, a dylasai gael gwell cefnogaeth. Gelwais gydag ef. Mae ganddo fasnach argraffu ar raddfa pur helaeth. Mae papyr wythnosol Seisnig, a'r Herald Cenhadol yn cael eu cyhoeddi ganddo. Tynid fy sylw gan fychander y swyddfa. Dau anedd-dy cysylltiol ydyw, a drws mewnol yn agoryd o un i'r llall. Y mae gorfodaeth i ddefnyddio y ddau dy hyn; mewn rhan at wasanaeth teuluol, yn ychwanegol at waith argraffu, rhwymo llyfrau a phacio, yr hyn sydd yn peri anghyfleustra, ac yn cyfyngu terfynau y swyddfa. Ceid pawb yn y swyddfa yn dra phrysur-y peiriant argraffu yn llafurus drystio mewn ystafell fechan yn y cefn; chwech neu