SAFAI Dora Lloyd o flaen ei drych yn ei hystafell wely. Yr oedd newydd roddi'r wiallen olaf yn ei gwallt. O'i blaen yn y drych yr oedd wyneb hirgrwn, trwyn union a llygaid gwineu cynnes, talcen llydan a'r gwallt yn gorwedd arno yn donnau cringoch. Rhoes flows sidan gwyn amdani, ac ni chaeodd ei fotymau hyd y top; gadawodd ychydig o wynder ei gwddf yn y golwg. Blwyddyn cyn hynny i'r diwrnod, sef dydd Llun Sulgwyn y llynedd, gwisgai flows gwyn a rhesi duon ynddo, a chaeasai'r botymau i gyd i'r top uchaf.
Buasai Dora Lloyd yn weddw yn awr ers pum mlynedd, a byth oddiar farw ei gŵr treuliasai bob prynhawn dydd Llun Sulgwyn gyda'i chwaer ynghyfraith, chwaer Ned, i sôn am ddiweddar ŵr a brawd uwchben cwpaned o dê. Yn ystod ei bywyd priodasol treuliasai bob Llun Sulgwyn yn y dref. Cerddai Ned gyda'i glyb, a rhuban coch a dwy snoden felen ynddo, ar draws ei frest. Treuliai Dora'r bore i gerdded y stryd gan ddisgwyl am y clyb. Rhoddai 'i chalon dro pan glywai'r band yn dyfod, a daliai i guro oni welai Ned. Yna, wedi ei weled a theimlo'n falchach ohono nag y teimlasai erioed, dechreuai ei chalon