Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

guro'n briodol, a cherddai hithau yn ôl blaen wedyn i'w ddisgwyl o'r cinio. Wedyn âi'r ddau gyda'i gilydd dros yr Aber, ac yna'n ôl i demprans yn Stryd Twll-yn-y-Wal i gael tê. Cerddai'r ddau adref bob amser os byddai'r tywydd yn braf, a chyrhaeddent ym min tywyllnos erbyn amser godro. A byddai'r haul yn suddo dros Fenai pan roddai Dora'r piseri llaeth i oeri yn y pwll dan y pistyll. Dyna ddydd Llun Sulgwyn eu bywyd priodasol hwy, ac edrychai hithau'n ôl arno fel rhywbeth prydferth, yn brydferth erbyn hyn am nad oedd yn bosibl ei gael yn ôl. Yr oedd y dyddiau Llun Sulgwyn cyntaf wedi marw ei gŵr yn rhai rhyfedd iawn. Yn ei galar cyntaf ymhyfrydai fyned i dŷ ei chwaer ynghyfraith, ac nid oedd dim gormod o sôn am Ned ganddi, er y gwyddai mai peth ffurfiol hollol oedd y sôn i Nel. Ond fel yr âi'r blynyddoedd ymlaen, âi'r diwrnod y deuthpwyd a Ned adref o'r chwarel ar elor yn bellach, bellach oddiwrthi. Ni chofiai gyda'r un eglurder ddirdynnu wyneb ei gyfaill Morys Pen y Braich wrth geisio torri'r newydd iddi. Cofiai bob llinell ar yr wyneb hwnnw yn ei ymdrech yn y blynyddoedd cyntaf, ond âi'n llai eglur bob blwyddyn. Ar y dechreu ni allai oddef clywed chwarelwyr yn pasio'r