tŷ, ac fe'i caeai ei hun yn y tŷ bob dydd ar ôl i'r corn ganu. Ac er cau'r drws, dychmygai glywed clic y llidiart yn agor a sŵn troed Ned ar y palmant cerrig o flaen y tŷ. Ond aeth clic y llidiart yn wannach, ac erbyn hyn tawsai yn gyfangwbl.
Eto i gyd daliai i fynd i dŷ ei chwaer ynghyfraith ar yr ŵyl yma. Aeth y peth mor ffurfiol â mynd i'r dref gynt, ac nid oedd am ei golli. Eithr eleni nid oedd arni awydd o gwbl mynd yno, ac eto ni chymerasai'r byd yn grwn â mynd i unman arall. Achos y cyfnewidiad oedd Bob Ifans y Rhandir. Sut y daeth i'w bywyd, ni wyddai. Ond ryw ddiwrnod teimlodd fod Bob Ifans yn rhan o'i bywyd, ac nad oedd yn bosibl byw hebddo.
Gŵr gweddw oedd Bob Ifans, ac yr oedd ei garedigrwydd i bobl ddi-gefn yr ardal yn ddiarhebol. Ni ofynnai i neb am ganiatâd i'w helpu, ond fe gerddai heibio i'ch drws ac fe rôi "wair i mewn" yn y beudy cyn i chwi wybod hynny. Ac ar un o'r achlysuron yma y teimlodd Dora Lloyd yn wahanol tuag ato. Deuthai Bob Ifans yno'n gynnar ar brynhawn Sadwrn, ac aethai i'r gadlas heibio i'r drws heb i Dora ei weled. Rhyw dipyn cyn y cynhaeaf gwair oedd hi, a chymerodd Bob i'w ben gario hynny o wair oedd yn weddill yn