y gadlas i'r beudy er mwyn dechreu gwneuthur sylfaen i'r das. Yr un foment ag y deuai Dora i mewn drwy un drws i'r beudy, deuai yntau i lawr y grisiau llechi ac i mewn drwy'r drws arall gyferbyn. A dyna'r olygfa a welai hi am ddyddiau a misoedd wedyn. Dyn heb fod yn rhy dal, ei goesau yn rhy hir i'w gorff efallai, wyneb glân newydd ei eillio, gwallt wedi brithio, het ddu a chrysbais ddu yn llwyd gan lwch llechi, trywsus melfared gwyn a chlytiau llwydlas o ôl y llechen hyd-ddo, a dau lygad llwyd yn edrych heibio i'r baich i weld ei ffordd. Disgynnai llwch y gwair yn llwyd hyd ei wyneb, ac arhosai gweiryn yma ac acw hyd ei fwstas. Yr oedd popeth yn y darlun yn llwyd. Mewn gair, rhyw un clwt o lwydni ydoedd, ond fe aeth y darlun a'r dyn oedd yn ganolbwynt iddo i'w chalon.
Deuai Bob Ifans yno yn amlach wedyn, a chollodd stem gyfa i'w helpu gyda'r cynhaeaf gwair. Cof ganddi'n awr wrth wisgo amdani am y diwrnod hwnnw. Diwrnod poeth tebig i heddiw ydoedd. Yr oedd hi yn y tŷ llaeth yn torri bara a 'menyn erbyn tê, a chlywai sŵn yn dyfod o'r gadlas trwy'r ffenestr agored tu cefn iddi. Sŵn ysgafn y gwair ydoedd, a disgynnai ar ei chlust, wrth luchio'r gwair