o'r drol i'r das, fel siffrwd pais sidan merch wrth gerdded. Yna deuai llais Bob Ifans:
"Y gongol yma 'rwan, hogia bach, neidiwch hynny fedrwch chi, er mwyn cael lle i'r droliad nesaf."
"Pryd byddwn ni wrth y to, Robat Ifans?" ebe un o'r hogiau.
"O, mi gawn ni das bach allan cyn hynny," ebe dyn pen y das.
Gwenai Dora'n foddhaus ar y dorth wrth feddwl am ei dynerwch a'i amynedd gyda'r plant.
Deuai golygfa arall o flaen ei llygaid.
Bob Ifans yn pegio'r mochyn ar ddiwrnod oer yn y gaeaf. Yr oedd cyn fedrused fel pegiwr mochyn ag ydoedd fel dyn pen y das mewn cynhaeaf gwair, ac ni byddai funud wrthi. Yr oedd y munud hwnnw'n un ofnadwy i'r mochyn, i'r pegiwr, ac i'r edrychydd. Hyfrydwch i deimlad Dora Lloyd ydoedd i Fob Ifans fedru cadw llywodraeth ar ei wyneb a'i dymer. Ac os medr merch ddal i feddwl yr un fath am ddyn wedi ei weld yn pegio mochyn, pan mae'n gymaint temtasiwn iddo dynnu ei wyneb i bob ffurf, fe argoela'n dda.
Ond i beth y breuddwydiai Dora fel hyn, a'r amser yn rhedeg ymhell? Ni roesai ond ei sgert amdani eto. Byddai Nel wedi blino disgwyl wrthi. Wrth