"Mi 'rwyt ti wedi bod yn ymdroi yn rhwla," ebe'i chwaer ynghyfraith.
"Do, mi ddaliodd Margiad Jôs y Pant fi ar y ffordd."
"Yn lle'r oedd hi wedi bod, tybad? Yn y fynwant, miwn."
"Ia," ebe Dora, ac ocheneidiodd.
Yn ei meddwl, fe gamgymerodd Nel yr ochenaid. I Nel, nid oedd ond un achos ynglŷn â mynwent a barai i Ddora ochneidio. Ned oedd hwnnw. Fe welodd Dora hynny cyn i Nel gael dwedyd dim, ac ebe hi:
"Sud mae dy foch di yn dwad ymlaen 'rwan, Nel?"
"Siort ora, ma nhw'n fytwrs dan gamp."
"Wir, ma nacw wedi colli i stumog yn lân. 'Rydw i am fynd am dipyn o ddalan poethion iddo ar fy ffordd adra."
Ac am foch a gwartheg a lloi y bu'r siarad bron drwy'r prynhawn. Ni bu yno ddim sôn am Ned nac am Fob Ifans. Ond wrth sôn am lo Dora oedd yn pori yng Ngwastad Faes yng ngwaelod y plwy, daeth syniad i ben ei berchennog, a bywiogodd o hynny hyd yr amser i gychwyn adref. Yn yr ardal honno byddai'r borfa'n brin yn y gwanwyn a dechreu haf, a byddai'n rhaid gyrru'r gwartheg i bori i rai o ffermydd brasach gwaelod y plwy. Yr oedd gan Ddora lo, a thrwy fod y gwartheg yn eu