llawn laeth, y llo a anfonwyd i bori'r tro hwn. Ac yn wir, bu ar Ddora hiraeth ar ei ôl wedi iddo fynd, oblegid nid oedd yn hollol fel lloi eraill rywsut. Magodd ef ar y bwced o'r cychwyn, ac yr oedd yn hollol fel oen llywaeth.
A llo crand oedd y llo, llo coch a seren wen yn ei dalcen. Yr oedd ei gorff yn gymhesur drwyddo fel eiddo ei fam. Dyna fel y dywedai'r hen Domos Huws, Bryn Rhedyn, am fuwch hardd bob amser, "buwch grand," yn hollol fel pe siaradai am ffrog oreu Annie ei ferch. Rhoesai Wil y Lloua ei ben dros y wal amryw weithiau ers pan aethai'r llo hwn allan i'r cae gyntaf. Ac os brathai Wil ei ben dros y wal fwy nag unwaith, golygai hynny fod ei lygad ar y llo, i'w brynu. Ond ni lwyddodd yn yr achos yma, ac ni chawsai'r cigydd lo ganddi byth. Yn ôl Dora Lloyd, nid oedd y dywediad hwnnw, "Gwell i chwi'r drwg a wyddoch na'r drwg na wyddoch," yn dal wrth werthu llo i gigydd. Ond yr oedd am fagu'r llo hwn deued a ddelo, a chyn pen hir iawn aeth y llo bach yn rhyw ran o'i bywyd. Nid âi ef byth ymhell oddiwrth y tŷ i bori. Codai ei ben a rhedai at wal y cae bob tro yr âi heibio i'r pistyll i nôl dŵr. Pan ddeuai amser ei lith gyda'r nos, rhedai fel peth cynddeiriog