at yr adwy, a heibio iddi dan neidio a champio at y beudy. A'r fath bleser oedd ei weld yn llyfu ei drwyn ar ôl gorffen ei lith ac yn estyn ei ben dros ymyl y rhesel i edrych ar ei hôl gan droi ei lygaid mawr, bolwyn! Teimlodd yn wir ddig ato unwaith. Fe dorrodd i mewn i gae'r lein ddillad ryw ddiwrnod, ac fe wnaeth ddifrod yno. Fe basiodd popeth rhad, ond fe gnodd bopeth drud onid oeddynt yn rhidyll fel bocs pupur, ac yn eu plith flows sidan gwyn, y blows lliw cyntaf i Ddora Lloyd ei brynu ar ôl claddu ei gŵr. Yr oedd yn ddig hyd ddagrau wrtho ar y dechreu, a dymunai i'r dincod fod ar ei ddannedd hyd ddiwedd ei oes. Ond rhoddodd bardwn iddo wedi ystyried mai "adwyon gwraig weddw" yw adwyon gwraig weddw wedi'r cwbl, a meddyliodd mai peth chwithig oedd galw neb gwirion yn llo.
Yn awr, wrth sôn wrth Nel am loiau ac anifeiliaid eraill, daeth iddi syniad. Yr oedd am fynnu cael y llo yn ôl cyn yr amser penodedig. Yr oedd arni dipyn o gywilydd cyfaddef wrth Nel na buasai yn gweld o gwbl sut y deuai'r llo ymlaen. Yr oedd yno ers cryn dipyn hefyd, oblegid yr oedd y Sulgwyn yn ddiweddar y flwyddyn honno. Os câi'r llo yn ôl, fe âi a'i meddwl oddiwrth bethau eraill. Ac yn ôl ei meddwl hi