Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr oedd yn rhaid i rywbeth lenwi eich bywyd, neu ran ohono, beth bynnag. A gwyddai na ddeuai Bob Ifans yn rhan ohono byth eto.

Daeth Nel i'w danfon beth o'r ffordd hyd at y llwyn danadl oedd ar ochr y ffordd. Wrth dorri'r danadl edrychai Dora'n hollol fel petai pob iot o'i meddwl ar fon y llysieuyn rhag ofn ei phigo ganddo. Ond yn lle hynny, yr oedd ei meddwl ar ddarlun lle gwelai Bob Ifans yn cilio'n ôl oddiwrthi yn wysg ei gefn a'r llo'n dychwelyd o Wastad Faes.

"Fyddi di'n medru anghofio petha yn fuan?" ebe hi wrth Nel.

"Anghofio beth, beth wyt ti'n feddwl?" ebe'r olaf.

"O diar, be sy arna i?" ebe Dora, oblegid gwyddai na ddeuai'r cwestiwn o gofio ac anghofio i fyd Nel o gwbl. Cymryd popeth fel y deuai a wnai ei chwaer ynghyfraith.

Wedi i'r olaf fynd i'r tŷ, ebe hi wrth ei gŵr:

"Ond 'toedd Dora yn rhyfadd heiddiw?"

"Rhyfadd y gwelis i hi 'rioed," ebe hwnnw.

Yr oedd Nel a'i gŵr cyn debyced i'w gilydd â phâr o gŵn tegan, ond bod pennau'r ddau yn troi'r un ffordd yn lle at ei gilydd.