Drannoeth, anfonodd Dora Joni'r tŷ nesaf i nôl y llo, a rhoddodd arian iddo dalu yn llawn am ei le. Yr oedd yn ddigon boddlon yn ei meddwl y gallai wneud yn burion heb lwgu'r gwartheg. Eleni yr oedd mwy nag arfer o "wellt medi"—y gwair ir hwnnw a dyf yn rhimin glas yng nghanol gwair arall ac a dyn ddŵr o ddannedd gwartheg.
Gallai ei weled yn dyfod i fyny'r ffordd a rhedodd i'r drws i'w ddisgwyl. Mynnai'r llo basio'r llidiart, a gyda chryn drafferth y cafodd Joni ef drwyddi. Aeth heibio i'w berchennog heb gymryd arno ei gweled. Wedi mynd i'r cae rhedodd o gwmpas yn wyllt, ac ni chymerai unrhyw sylw o'r gwartheg eraill nac o'i fam ei hun. Rhedai i ffwrdd pan ddeuai ei fam ato i geisio ei synhwyro. Wedi gorffen rhedeg, a bod yn gas wrth y gwartheg eraill, safodd yn stond yng ngwaelod y cae, a'i ben dros y wal yn edrych i gyfeiriad Gwastad Faes.
Sylwodd Dora ar hyn i gyd, ac aeth i'r cae dan weiddi, "Drwia, bach."
Ond ni chymerai sylw ohoni.
"Joni," ebe hi, wedi mynd yn ei hôl at y tŷ, "wnei di ddim mynd i'r beudy i nôl y bladur a thorri tipyn o wellt medi imi." Ymhen deng munud, croesai'r cae, a'r gwellt medi mewn hen fasged ddillad dan ei braich.