wyth a phedwar ugain. Yn ei hen dŷ yn Llain Wen y mae hi'n byw, efo'i merch Gwen; gwaith rhyw chwarter awr oddiyma yw Llain Wen. Wedi i Twm briodi efo Ann y Wern, cafodd waith yn Chwarel y Fenlas, ac mi symudodd i'r ardal honno i fyw. 'Rwyf i yn byw yn fy hen gartre o hyd. Bu Twm a minnau yn canlyn ein gilydd nes priododd o a mynd oddyma i fyw. Wedyn, fel mae hi'n digwydd, collsom olwg ar ein gilydd, a fyddem ni byth yn taro ar ein gilydd ond pan ddoi Twm i gladdu rhywun i'w hen ardal, neu i edrych am ei fam; neu pan darawem ar ein gilydd mewn ffair yn y dre.
Tua diwedd y flwyddyn ddwaetha dwedwyd wrthyf fod Twm yn cwyno, ac nad oedd o ddim efo'i waith hanner ei amser. Mi euthum i Lain Wen i holi ac i gael tipyn o'i hanes. Ond ni wyddai neb yno ddim byd. Nid oedd yr hen wraig yn fy 'nabod ar y dechreu, ac nid oeddwn yn synnu at hynny, oblegid yr oedd misoedd er pan fum yno. Ond wedi imi ddweyd pwy oeddwn, yr oedd yn cofio ar unwaith, a holodd fi ynghylch y gwartheg a'r anifeiliaid. Cofiai fod un o'r gwartheg yn sâl gennyf.
Ymhen rhyw fis wedyn, clywais mai gwael iawn oedd Twm, ac euthum drachefn