Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i Lain Wen i wybod ai gwir a glywswn. Clywsent hwythau drwy lythyr oddiwrth Ann mai gwael iawn ydoedd, ond nid oedd yno lawer o bryder.

"Rhyw boen yn 'i frest sy gyno fo," ebe Gwen, gan daflu'r peth heibio.

Eisteddai'r hen wraig yn ei chornel wrth y tân, ac nid adwaenai fi mwy na'r noson cynt, fis cyn hynny. Wedi imi ddweyd pwy oeddwn, "O 'r tad," ebe hi, gan ddodi ei llaw ar fy ysgwydd, fedrwn i yn y myw weld dim byd yn debig ynat ti, ond mi gwela i o 'rwan." A chwarddodd yn galonnog.

Nid oeddwn yn rhyw dawel iawn fy meddwl ynghylch Twm, a thrannoeth euthum yno gyda'r trên i weld drosof fy hun. Synnais yn fawr pan welais ef yn y fan honno yn eistedd wrth y tân; yr oedd golwg wael iawn arno. Ei wyneb yn felyn ac yn deneu, a'i ddwylo'n lân. Eto, yr hen Dwm oedd yno yn sôn am ei gôr yn y chwarel gydag afiaith.

"'Rydw i yn disgwyl y bydda i 'n o lew at gwarfodydd y Nadolig yma," meddai, 'rydw i wedi cael dwrnod go dda heiddiw."

A sgwrsio am gorau a chystadlaethau y buom drwy'r amser. Wrth gychwyn oddi-yno, daeth Ann i nanfon i, ac yr oedd ei hwyneb yn hollol wahanol i'r hyn ydoedd