Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn y tŷ. Yno yr oedd yn llawen, a phrin y gallasech ddweyd fod dim yn ei phoeni. Wedi dyfod allan y canfûm mai ymdrech oedd hi arni yn y tŷ.

"Sut 'roeddat ti yn 'i weld o?" meddai. "Yn well nag 'roeddwn i 'n meddwl, meddwn innau, gan ddweyd anwiredd.

"Mae o 'n frenin heiddiw wrth yr hyn fuo fo," ebe hi. "Amball ddwrnod mae o 'n cael poenau ofnadwy." "A wir," ebe hi, gan fygu ochenaid, ' lliw drwg iawn mae'r doctor yn 'i roi ar betha."

"Wyddan nhwtha mo'r cwbwl," meddwn innau, beth mae o 'n ddeyd ydi'r matar?

"Tydi o ddim yn deyd yn rhyw blaen iawn," ebe hithau. "Ond rhaid imi fynd i'r tŷ. Paid â bod yn ddiarth."

"Mi ddo i yn o fuan eto," meddwn i wrth groesi'r gamfa i'r cae.

Ond i'm cywilydd nid euthum am hir iawn. Rhyfedd fel mae dyn yn medru anghofio salwch sydd yn ddigon pell oddiwrtho. Felly bu hi efo minnau.

Pan euthum yno wedyn, ni allwn gredu fy llygaid gan gymaint y newid yn Nhwm. Ar fy myned i'r tŷ clywn arogleu pobi bara da. Yr oedd Ann wrthi'n tynnu'r bara o'r pobty, a Thwm yn eistedd gyferbyn, a'i wyneb yn deneuach ac yn felynach a'i lygaid yn fawr. Pe gallesid trawsnewid