yr wyneb hwnnw, fe fuasai yn ddarlun cysurus. Ni chymerodd lawer o sylw ohonof, ond cadwai ei olwg ar Ann yn tynnu'r bara o'r popty. Cnociai hithau o danynt efo'i migyrnau, fel petai hi'n cnocio drws, i edrych a oeddynt yn barod. "Gwna hyna eto," ebe fo wrthi, "gwna hyna eto," a'i lygaid yn rhythu.
A chnociodd Ann y dorth i'w fodloni. "Fel yna y bydda mam yn gneud ers talwm," meddai wrthyf i.
A daeth rhyw olwg dros ei wyneb, yr un olwg ag a welais arno lawer gwaith mewn cyfarfod llenyddol, pan fyddai'r beirniad yn rhoi ei feirniadaeth, ac wedi dweyd digon ohoni i ddangos mai ei gôr ef oedd y goreu. Diflannodd yr olwg yna'n fuan a throdd ei lygaid at y tân. Felly y bu tra fum yno, yn syllu i'r tân, heb ddweyd fawr ddim, ond ateb ambell gwestiwn. Gofynnodd un cwestiwn ohono'i hun heb dynnu 'i olwg o'r tân.
"Sut mae mam?" meddai.
"Mae hi'n reit dda o ran 'i hiechyd," meddwn, "i cho hi sy'n mynd."
"Ia'n tê?" meddai yntau, "eitha i hynny fod, am wn i."
Nos drannoeth euthum i Lain Wen. Gofynasai Gwen imi fynd oblegid yr oedd yn bryderus iawn erbyn hyn. Yr un