Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fath â'r troeon cynt, nid adwaenai'r hen wraig fi. Ac wedi gwybod pwy oeddwn, ni chymerai ddim diddordeb ynof i na'm pethau.

Yr oedd yn noson galed, loergan leuad, a dim awel o wynt yn unman. Yr oedd y rhew yn crensian dan fy nhraed ar hyd y ffordd tua Llain Wen.

"Codi'n wynt mawr y mae hi'n tê?" ebe'r hen wraig heb annerch neb mwy na'i gilydd.

"Faint sy tan 'Dolig?" ebe hi, cyn imi gael siawns i'w chywiro ar gwestiwn y gwynt.

"Deufis," ebe finnau.

"Diar bach," ebe hi, "'rydw i yn cofio fel petai hi'n ddoe am dana i ag Aels fy chwaer yn gwneud cyflath ddydd cyn 'Dolig pan oeddan ni'n dwy yn gweini yng Ngwastad Faes. "A wyst ti be?" ebe hi, gan daro ei llaw ar fy mhen glin, mi rhoethon ni o allan i oeri. Gynta 'n bod ni wedi gneud, dyma ni'n clywad rhyw sgrech fwya ofnadwy. A beth oedd yno ond rhyw hen iar wedi rhedag drwy'r cyflath, ac wedi llosgi. Mi ddoth i hewin hi i ffwrdd, y gryduras." A chwarddodd yr hen wraig.

"Tewch â'ch lol, mam," ebe Gwen yn snaplyd.