"Sut 'roedd Twm?" ebe hi wrthyf yn addfwynach.
"Symol iawn," meddwn i, "symol iawn, wedi gwaelu'n arw er pan welis i o'r tro dwaetha."
"Ia," ebe hithau, "ron inna yn i weld o wedi gwaelu'n arw y arw y dwrnod y buom i yno. Mae arna i ofn fod rhwbath wedi gafael yn Twm."
"Bobol bach," ebe'r hen wraig, "mi fydda yna betha digri yn digwydd es talwm."
"Tewch, mam," ebe Gwen yn ddiamynedd, "dydach chi ddim yn clwad Wil yn deyd mor sâl ydi Twm?"
"Twm?" ebe'r hen wraig, "ia'n tê?" Aeth rhagddi wedyn.
"Rydw i'n cofio Aels a minnau'n dwad adra dros bompran Gwredog efo'n cariada, o Ffair Wyl Grog, a phan oeddan ni ar y bompran, dyma ni'n gweld ysbryd, a ffwrdd a ni yn yn hola, yn ôl dest i'r dre, ac adra rownd y lôn wedyn. Mi 'roedd Aels yn hogan glyfar hefyd. Mi gai hi neb fynna hi yn gariad."
Wrth edrych arni yn eistedd yn y fan honno, yn hen wraig hen, âi fy meddwl yn ôl at yr amser pan fyddwn yn galw yno heibio i Dwm i fynd efo fo i'r ysgol. Gwraig bach, writgoch, gron, oedd hi'r adeg honno,