fel twmplin 'falau, yn mynd yn fân ac yn fuan o gwmpas y tŷ. Yr oedd ganddi feddwl y byd o Twm. Y fo oedd yr hogyn 'fenga, a mawr oedd bydau ei fam efo fo. Yr oedd yn rhaid iddo wisgo mwstard mewn gwlanen ar ei frest drwy'r gaea a'r ha bron. Ac at hynny, hances wlanenéd am ei wddf ac yn croesi ar draws ei frest o dan ei fresus. Byddai'n rhaid i Dwm doddi'n llymad yng ngwres Gorffennaf cyn y cai eu tynnu. Ni chai'r gwynt chwythu arno gan ei fam. Meddyliwn am y fam weithgar honno,—a'r hen wraig hon, yn eistedd wrth y tân a'i dwylo dros 'i gilydd.
Am wn i mai'r un dillad oedd ganddi 'rwan. Nid oeddwn yn ei chofio erioed heb y cap gwyn o dan yr het wellt ddu. Nid cap gwyn wedi'i gwicio oedd o chwaith, fel a welais i gan Betsan Ifan pan oeddwn i'n hogyn, ond cap gwyn a ffrilin, a het bach gron ddu yn troi at i lawr, a'i chantel wedi ei rwymo efo melfed a phluen o gwmpas y corun. Un felly a welais ganddi erioed, ac ni welais hi 'rioed hebddi am ei phen yn tŷ. Yr oedd ganddi bais stwff gartre amdani, bodis gwlanen, a barclod glas a gwyn; ac am ei thraed bâr o glocsiau a chlesbin gloyw arnynt.