"Yr un siort o ddillad," meddwn i wrthyf fy hun, ond nid yr un wyneb na breichiau. Nid y breichiau yma a welais i ers talwm yn tylino padellaid o does, nes byddai yn gwegian fel tonnen odani. Ychydig o'i hwyneb oedd i'w weld yrwan, oblegid clymai llinynnau ei chap o dan ei gên. Yr oedd yr ychydig oedd i'w weld yn rhychau i gyd, fel llaid ar ôl glaw. Yr oedd ei dwylo'n felyn a brych, fel papur wedi brychu mewn ystafell laith. Yng nghongol ei llygad yr oedd diferyn o ddŵr. Ysgydwai ei phen o hyd, weithiau i fyny ac i lawr, weithiau o'r chwith i'r dde.
"Codi'n fwy o wynt y mae hi'n tê?" ebe hi drachefn.
"Ie," ebe fi, "a rhaid imi ei throi hi." Wrth imi agor y drws ar noson dawel a'r lleuad ar lechen y drws, clywn yr hen wraig:
"Codi'n wynt mawr y mae hi."
Euthum adre'n brudd.
Bum yn edrych am Dwm droeon ar ôl hyn, ac i'm golwg i gwaethygu yr ydoedd bob tro.
Diwrnod Ffair Gaea yr oeddwn yn y dre'n fore. Ond er mor fore ydoedd yr oedd un o gymdogion Twm, a wyddai am ein cyfeillgarwch, yn chwilio amdanaf. Gwyddwn oddiwrth ei wyneb fod ganddo