newydd drwg. Yr oedd Twm yn wael iawn, meddai, yn waelach er y noson cynt, ac ofnai na byddai yno erbyn yr âi adre o'r ffair. Cychwynnais ar unwaith tuag yno gan adael y ffair i'r neb a'i mynnai. Yr oeddwn am gael un olwg ar Dwm wedyn. Ond yr oeddwn yn rhy ddiweddar. Yr oedd wedi darfod ryw awr cyn hynny. I mi y rhoddwyd y gorchwyl o ddweyd y newydd yn Llain Wen.
Cerddais yn ôl bob cam, ac erbyn imi gyrraedd Llain. Wen, canai'r cyrn un o'r gloch.
Wrth agor y llidiart i'r llwybr a arweiniai at y tŷ, gwelwn yr hen wraig yn y drws, a'i phen yn ymestyn heibio i'r cilbost. Cyn imi agor y llidiart, gofynasai dyn a âi heibio, ai honno oedd y ffordd iawn i Lanberis. Gwelsai'r hen wraig ef mae'n amlwg, oblegid ei chwestiwn cyntaf i mi oedd:
"Beth oedd ar y dyn yna eisio, deydwch?"
"Eisio gwybod oedd o ar y ffordd iawn i Lanberis."
"O'r tad."
Syllodd arnaf wedyn.
"Pwy ydach chi?" ebe hi.
"Wil," meddwn i, "Wil, ffrindia Twm bach."