Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Felly'r diwrnod hwn, ni chafodd geiriau'r Prifathro fawr effaith arno, er iddo yn ei ŵydd, fwmial rhywbeth ynghylch addo gweithio'n galetach.

Ond yr oedd Tomos a'i feddwl efog o, ymhell cyn i'r meistr orffen ag ef, a chyn gynted ag y cafodd hyd i ochr arall drws yr ystafell, rhoddodd y meddwl hwnnw mewn gweithrediad. Penderfynodd redeg adref o'r ysgol, byth i ddychwelyd os cai ganiatâd ei fam. A pha'r un bynnag am hynny, gallai ei fam ddeall yn well na'r Prifathro.

Diwrnod poeth yn yr haf ydoedd—diwrnod wrth fodd beirdd a ffermwyr—ond nid diwrnod i hogyn ysgol, yn ôl tyb Tomos. Pasiodd ddegau o gaeau gwair, lle'r oedd dyn ac anifail yn chwys ac yn llafur. Ond ni chlywodd Tomos aroglau da'r gwair, na chwerthin y bobl.

Ar y ffordd newidiodd ei feddwl yn sydyn. Nid âi adref ar ei union. Yr oedd am fynd am dro i'r chwarel, a mynd adref at ei fam erbyn tê. Felly troes o'r ffordd fawr, a cherddodd yn hamddenol ar hyd y llwybrau, gan feddwl, a meddwl, a meddwl. Nid oedd sŵn y gwenyn meirch a wibiai o amgylch ei wyneb yn ddigon i dynnu ei sylw oddiar ei fyfyrdodau. Eithr rhedodd ei olwg yn ddiarwybod at wyneb