gwyn tŷ ei fam yn y pellter, ei ddrws agored a'i fwg union yn mynd i fyny drwy'r corn. Cafodd amser i feddwl hefyd am y gwpaned dê a gai gyda'i fam ymhen dwyawr, oblegid cofiodd fod ei fam adref y diwrnod hwn. Nid âi allan i weithio i neb ar ddifiau.
Dringo'r Foel wedyn, a'r haul yn boeth. Eisteddodd i lawr yng nghysgod gwal Pant y Ffrydiau—hen gartref ei dad a'i daid. Gorweddodd gan roi ei ben i orffwys ar dwmpath mwsogl. Nid oedd dim sŵn i'w glywed, dim ond sŵn gwres, a sŵn ambell ddarn rwbel yn syrthio o ben tomen y chwarel i lawr. Ac ni wnai hynny ond gwneuthur distawrwydd yn ddistawach. Canodd corn y chwarel,—y corn un. "Dyna rywrai yn ail-afael yn eu gwaith," ebe Tomos gan gau ei lygaid. Pe gwelsech ef y munud hwnnw, fe welsech wyneb diniwed, hardd onibai am y man geni (er, yn wir, bod hwnnw'n ychwanegu rhyw swyn ato), a thalcen y gallasech broffwydo dyfodol disglair i'w berchennog, ond nid oedd digon ym mhennau'r defaid i weled dim byd felly, ac aethant ymlaen efo'u pori heb gyffro'n y byd.
Fe'i gwelai Tomos ef ei hun eto yn hogyn bach bach yn eistedd ar y stôl gron wrth y tân gartref, ar noson oer yn y gaeaf. Ei dad yn eistedd yn y gadair freichiau