wrth ei ochr, a'i wyneb yn rhyw led droi oddiwrtho (yr oedd yr un anaddurn ar ei wyneb yntau), ei fam gyferbyn a chymydog ar gadair arall. Adrodd yr oedd ei dad stori a glywsai'r bachgen ddegau o weithiau erbyn hyn. Mi glywis y nhad yn i deyd hi ddega o weithia."
Dyna fel y dechreuai tad Tomos bob amser. "Doeddwn i ddim wedi fy ngeni," âi ymlaen, ond mi glywis y nhad yn deyd hanas Tomos, i fab hyna, lawar gwaith, fel yr ath o allan at y beudy un nos Sul wedi dwad o'r capal, ac fel y rhoth rhyw hen dderyn mawr dair sgrech wrth i ben o. Mi redodd yr hogyn i'r tŷ wedi dychryn am i hoedal, a deyd wrth mam nad âi o ddim i'r chwaral dronnoth—bod rhwbath yn siwr o ddigwydd. 'Taw a chyboli,' medda mam, 'coel gwrach ydi peth fel 'na.' Wel, mynd i'r chwaral ddaru o beth bynnag, ac mi ddoth ffôl fawr i lawr, ac mi claddwyd ynta dani. Mi fuon heb gâl 'i gorff o am dair wsnos, a'i arch yn y chwaral o hyd. Ia wir, fachgan, ma hi dipyn gwahanol 'rwan. Deuddag oed oedd Tomos pan gafodd o 'i ladd, ac yn gweithio ers tair blynadd. Ar 'i ôl o y galwyd fi yn Tomos wsti, y fi anwyd nesa ato fo."