Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Clywai Tomos lais ei dad—y llais nas clywsai ers cymaint. Cododd yn sydyn ar ei eistedd gan ddisgwyl gweled; ie, ond cofiodd mai ar y mynydd yr ydoedd. "Rhaid imi frysio i fynd adra at dê," ebe fe wedyn, ond am dro i'r chwaral gynta."

Dringodd yn araf ar hyd godre tomen y chwarel. Toc, daeth at ben y twll, a gwelai'r dynion ar y gwaelod yn fychain, bach, ac eto, yr oedd y dynion bychain, bach, yn gweithio'n galed; yn tyllu, yn tyllu, yr un amser, yr un mesur, o hyd, o hyd. A chwysai Tomos drostynt ar y lan.

Dechreuodd feddwl am ei dad, am y breuddwyd, oni fuasai'n well pe buasai yntau'n gweithio yn y chwarel efo'i ddwylo, yn lle meddwl o hyd? Dechreuodd y twll droi a'r dynion i'w ganlyn. Aethant yn bellach, bellach. Collodd Tomos ei ben, syrthiodd i lawr,—a—

**** Tua deg ar gloch y noson honno, eisteddai mam Tomos wrth y tân gyda chymdoges. Buasai degau o bobl yno er pedwar y prynhawn, ac erbyn hyn yr oedd pob man cyn ddistawed a'r corff bach, oer yn y siamber. Gwrandawai'r ddwy ar dip y cloc, a thip hwnnw'n arafach ac yn