Gwirwyd y dudalen hon
drymach y noswaith honno. Ni thorrai dim arall ar y distawrwydd, ond ocheneidiau dwys y fam.
Ebe Gwen Jones yn y man,—
"Faint sydd er pan laddwyd brawd Tomos Jôs yn y chwaral?"
"Ma deugian mlynadd reit siwr," ebe'r fam.
"Felly'r ôn inna'n meddwl. Tomos odd i enw ynta hefyd, yntê?"
"Ia, Tomos anwyd gynta wedyn. Llawar y glywis i nain yn sôn am y ddamwain honno."
Ac fel un yn deffro o hunllef,
"Ac mi rodd gin y Tomos cynta fan geni wrth ben i lygad chwith fel fy nau Domos inna."
- Ebrill, 1921.