"O, da iawn wir, gobeithio ceith o fywyd ac iechyd."
"Besdad i'r ddynas," ebe Ann Jôs wrthi ei hun.
Ymhen spel, cododd Elin Wmffras i fynd, a safodd am hir iawn i edrych ar Ann Jôs yn gwasgu'r cynfasau allan o'r dŵr lliw glas. Nid oedd dim llai nag edmygedd yn ei llygaid wrth edrych ar ei chymdoges fedrus yn cyfrodeddu'r gynfas am ei braich, yn union fel yr ymgyfrodedda neidr am y pren.
Pan ollyngodd yr olaf ochenaid, ni wyddys yn iawn pa un ai oherwydd myned o Elin Wmffras yr oedd, ai ynte oherwydd bod y dillad gwynion, beth bynnag, yn barod i fynd allan.
Wrth daenu'r dillad ar yr eithin melyn, ni allai Ann Jôs beidio a meddwl am neges Elin Wmffras yno'r bore. Nid i fod oddiar ffordd yr olchwraig y daeth yno. Yr oedd yn sicr yn ei meddwl o hynny. Felly wrth edrych o gyfeiriad y twmpath eithin at y tŷ, nid oedd yn rhyfedd ganddi weld dyn dieithr yn troi trwy'r llidiart. Dechreuasai y dydd Llun yma o chwith, ac ni byddai'n syn ganddi, felly, ddigwydd o rywbeth mawr cyn y nos. Gadawodd y dillad ar hanner eu taenu ac aeth at y tŷ. Meddyliodd unwaith am dynnu ei ffedog