fras, ond cofiodd am y clwt mawr oedd ar du blaen ei sgert. Ac er ei bod yn un o'r merched hynny sy'n hoffi clwt blêr yn well na thwll del, eto ni thynnodd ei ffedog gan iddi ei rhoi yn lân y bore hwnnw.
"Mrs. Jones," ebe'r dyn dieithr, mam Huw Jones sy'n brentis acw'n te?"
"O, Mr. Huws, chi sy 'na? Dowch i mewn, ac at y tân, os medrwch chi gamu tros y petha 'ma, gan roi cic i rai o'r dillad.
Na, dim diolch, fe wnaiff hon y tro i mi," gan eistedd ar gadair wrth y drws, fel pe'n falch o gael cadair.
"Ma'n ddrwg gin i bod 'ma ffasiwn lanast," ebe Ann Jôs, a'i gwefus isaf yn crynu; oblegid gwyddai, erbyn hyn, i rywbeth ddigwydd i Huw; ond ceisiai feddiannu ei henaid.
"Ma'n debyg na wyddoch chi ddim bedi byw mewn tŷ lle nad oes yno ddim tŷ golchi?"
"Dwn i ar y ddaear lle bydd yr hogan acw'n golchi; fydda i byth yn boddro ynghylch petha felly," ebe Huws.
Er pan ddaeth i mewn, cymerasai Ann Jôs sylw manwl ohono,—rhwng cromfachau, megis,—oblegid ni welsai feistr Huw o'r blaen. A barnu oddiwrth ei olwg, nid oedd dim yn debyg i siopwr ynddo, yn