Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ôl ei barn hi. Meddyliai fod ei Huw hi yn amgen siopwr o'r hanner. Yr oedd golwg bryderus arno heddiw,—yn fwy felly nag arfer. Yr oedd rhywbeth heblaw arian yn ei boeni. Ebe fe o'r diwedd,—

"Ma'n debyg, Mrs. Jones, bod yn syn gynoch chi 'y ngweld i yma'r bora 'ma?

"Dyna jest be o'n i 'n feddwl 'rwan."

"Ma'n reit gas gen i ddeyd wrthach chi nad ydi Huw a finna ddim yn rhyw gyd-dynnu'n dda iawn."

"O."

"Nag ydan, bachgan go anodd 'i drin ydi o."

"Ma hynny'n dibynnu ar y sawl sydd yn 'i drin o."

"Nag ydi, wir, mi goelia i ma fel 'na basa Huw efo pawb."

"Fydd o byth yn anodd 'i drin adra, ac ma Effraim a minna'n rhywun, Mr. Huws.'

"O wel, Mrs. Jones, ma gwahaniath rhwng plant gartra ac oddicartra. Fel rheol, y rhai sydd ora adra, sydd waetha pan dro nhw'i cefna ar 'i rhieni."

"Ma hynny'n dibynnu ar y lle'r â'n nhw iddo fo, Mr. Huws."

'Ta waeth am hynny, ma hogia wedi mynd i feddwl 'rwan mai nhw 'di'r meistri, ac mai ni ydi'r gweision. Pan o'n