Mewn gwirionedd, disgrifiad gwan iawn o'r twrw oedd hynyna. Eithr dyn an-farddonol, a rhy urddasol i ddefnyddio geiriau mawr oedd Huws. Gallai Gwilym, Bryn Sais, ei wneud allan o wynt yn hyn, fel mewn llawer peth arall, a'i ddisgrifiad ef i glustiau awchus ei fam nos Sadwrn oedd bod yno "andros o row."
"Doedd yr hogia erill yn cwyno dim," âi ymlaen.
"Nag oeddan, miwn; ma gynoch chi rai acw sy'n ormod o lechgwn i ddeyd dim yn ych gwynab chi, ond ma nhw'n ddigon parod i neud bwch dihangol o fy Huw i."
"Wel, i dorri fy stori'n fyr," ebe Huws, gan frathu ei ben heibio'r drws i edrych a oedd y llidiart yn agored, "pam dois i yma oedd, i ddeyd na ddath Huw ddim at 'i waith y bora 'ma. Yr oedd Gwilym Wmffras yn deyd 'i fod o wedi cychwyn, achos 'roedd o'n cerad rhyw ddeugian llath o'i flaen o, nes y daeth o at y tro hwnnw yn ymyl Pont Wyrfai; a 'ro'n i 'n meddwl y basa chi'n licio gwybod er mwyn i chi fynd i chwilio amdano fo." Dywedodd y frawddeg olaf ar y ffordd tua'r llidiart.
Yn awr, pe dywedasid hyn wrth bobl gyffredin fel chwi a minnau, fe gawsem wasgfa. Eithr nid dynes gyffredin fel chwi