Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a minnau oedd Ann Jôs. Nid oedd mynydd a phant yn ei meddwl hi o gwbl. Yr oedd fel y gwastadedd a orweddai rhyngddi â'r môr. Yn lle cael gwasgfa, fe gafodd syniad. Cipiodd y gwlanenni oedd heb eu golchi yn y fasged i'r cefn. Taflodd y dŵr budr; tynnodd y sospon oddiar y tân ac aeth a hi allan; sychodd fymryn ar y llawr ac ar ei hwyneb a chweiriodd y gwely. Gwnaeth hyn i gyd oherwydd i'r gair "cwest" a'r gair "corff" basio drwy ei meddwl. Gwisgodd amdani ei dillad noson waith, a chychwynnodd i'r chwarel i nôl Effraim. Pan ofynnodd gwraig Bron y Gadair iddi beth a'i tynnai allan mor fore ar fore dydd Llun, yr unig ateb a gafodd oedd mai picio i neges yr ydoedd.

Er gwaethaf cwrteisrwydd Ann Jôs, ni allodd gwraig Bron y Gadair wrthsefyll y demtasiwn o fyned i ffenestr y llofft i weled mam ein gwron yn dringo llethr yr Allt Hir tua Chwarel y Fenlas.

Pan gyrhaeddodd y chwarel, mawr,—na, mae mawr yn air rhy ddôf i ddisgrifio syndod Ann Jôs o weld yn sefyll ar y bonc mewn sgwrs ddwys,—Huw, Effraim, a Lloyd y stiward.

"Wel wir," ebe hi, "dyma'r dydd Llun rhyfedda welis i 'rioed, a gobeithio na wela i byth un 'run fath ag o. 'Rydw