i'n meddwl ma bryddwydio 'rydw i ers meityn. Gobeithio na cha i ddim strôc." Yr oedd Huw a'i gefn ati, a sylwodd y fam am y tro cyntaf erioed ar hyd coesau a chulni cefn ei bachgen. Y peth cyntaf a syrthiodd ar ei chlust oedd, "Cewch, yn eno'r bobol, ddechra bora fory, ond wrth gwrs, canlyn y wagan gewch chi am dipyn," gan Lloyd.
Pan drodd Huw, sylwodd y fam ar y gwahaniaeth oedd ynddo rhagor y diwrnod cynt. "Wel, Huw bach, oedd y cwbl a allodd ei ddywedyd. Golwg digon digalon oedd ar Effraim Jôs tan yngenyd," Saith mlynadd i ddim."
"Be sy?" ebe'i wraig.
"Be sy, by—be?" ebe Effraim Jôs. "Yr hogyn yma am ddwad i'r chwaral eto, wedi gwastraffu'r holl flynyddoedd rhwng y dre a'r armi."
"Mae'n eitha gin i i gâl o adra," ebe'i fam, "i edrach fedra'i ledu tipyn ar 'i gefn o, a rhoi tipyn o fêr ar yr esgyrn yma." A lledodd Huw ei frest yn ddiarwybod.
"Ia, ia," ebe'r tad, digon hawdd cymyd y peth yn ysgafn fel yna,—tasa'r hogyn wedi bwrw'i brentisiath yn y chwaral yn lle yn y dre, nid canlyn y wagan y basa fo fory."