Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Oedd, yr oedd llythyr William Tan y Chwarel wedi siglo tipyn ar feddwl John Robaits heddiw. Ysgrifennai William unwaith yn y pedwar amser at John i ddywedyd sut yr âi pethau ymlaen yn y Chwarel a'r hen fro. Codi calon ei hen gydymaith a wnai llythyr William bob amser, ond cafodd ei lythyr ddoe effaith wahanol. Nid prudd mohono, ond hawdd i'w wraig weled ei fod am godi ei binnas i fynd i'r Gogledd yn ôl. Adwaenai yr arwyddion hynny er pan ddaeth gyntaf i'r De. Yn lle mynd i'r Ysgol Sul fel arfer, fe arosasai John adref i bendympian wrth y tân, ac nid i bendympian chwaith, oblegid pan ddaeth Elin yn ôl o'r Ysgol Sul, dyna lle'r oedd pentyrrau o hen luniau hyd y bwrdd, a John yn edrych yn graff dros ymyl ei spectol ar rai ohonynt. Un mawr a oedd ganddo yn ei law y munud hwnnw—un o holl chwarelwyr y Fenlas, yn un o flynyddoedd ei bri. Daeth y llun a'r gorffennol yn fyw iawn i gof John Robaits. O'i flaen yr oedd William Cae Hywel, a laddwyd ar waelod y Twll Mawr y diwrnod poeth hwnnw ym mis Gorffennaf, a'i wraig a'i blant wedi mynd i lan môr Dinas Dinlle am dro. Yno hefyd yr oedd Dic yr Hendre a ddihangodd i'r Merica rhag dlêd ei wraig. Yno o'i flaen yr oedd