Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyneb hawddgar Dic y Morfa a laddwyd yn y Rhyfel. Ond yr oedd mwy o'r darlun yn fyw nag oedd wedi marw, galwai'r holl wynebau hynny arno ef, John Robaits, Pen Bryn gynt, yn ôl i'r hen fro.

Ac yn awr wrth eistedd wrth y tân, cyn cychwyn am ei shifft nos, yr oedd mor aflonydd ac mor barod i swnian a gwenynen o amgylch bys coch.

"Ym mhle rhowd y llythyr yna, Elin," ebe fe toc.

"Pa lythyr?"

"Ond llythyr William."

"Chdi a dy lythyr! I be 'rwyt ti'n colstro. Mi 'rwyt ti wedi ddarllan deirgwaith esys. Rhwng hôl dy fysadd di a blotia William, fedar Guto byth i ddarllan o pan ddaw o o Gaer Dydd nos Wenar."

"Rhaid imi gael cip arno weldi. Tydw i ddim yn cofio'n iawn ym mhle y deydodd o fod y côr yn cystadlu ddydd Llun y Pasg." Ond yn y dre, siwr iawn. Does dim Steddfod yn unman arall."

"Aros di, doro imi weld," a chwilotodd yn ddyfal yn nrôr y cwpwrdd gwydr. Gan fod ei spectol ym mhoced ei gôt oreu yn y llofft, bu raid iddo ymfodloni ar un pâr o lygaid yn unig. Ond gwyddai John