Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y llythyr yn ddigon da erbyn hyn i'w roi wrth ei gilydd. Rhedai ei olwg dros frawddegau fel hyn:

"Mae ma bracteisio brwd erbyn Steddfod y Dre, Llun y Pasg. Mi roth Lloyd hanner awr ecstra inni ganol dydd ddoe am bractis, o achos bod piano'r hen Breis i fyny yn y chwarel. Mi 'roedd holl sachau siop Ned o dani rhag iddi faeddu.

"Mae hi wedi bywiogi'n gynddeiriog ffordd yma 'rwan, ac mae hi'n dipyn gwell arnom ni na fuo hi ers blynyddoedd. Tair a phymtheg ydi'r isrif cyflog, ac wrth gwrs os byddi di mewn bargan go lew mi gei fwy o gryn dipyn. Mae'r talu bob wsnos yma'n gaffaeliad mawr rhagor y talu bob mis hwnnw, hyd yn oed pe tasa fo'n llai, medda Maggie.

Mi wyddost lle'r wyt ti efo dy lyfr siop. Wyt ti'n cofio Robin Blaen Ddol ers talwm yn deyd wrth Robaits y clarc i fod o'n medru celcio ugain mlynedd cyn hynny, gimint ag oedd o'n ennill y pryd hwnnw, a hynny heb i'r wraig wbod dim. Mae rhai o'r boys, yma, yn galw'r talu gawn ni ar y bedwerydd wsnos, sef hynny fyddi di wedi i neud dros ben yr isrif, yn dâl mawr Dowlais.' Ydyn nhw yn cael rhyw arian mawr iawn yn y Dowlais yna, dwad?