"Gobeithio y bydd o wir," ebe Elin Robaits rhwng ei hocheneidiau, ond ma'n ddrwg gin i 'rwan mod i wedi deyd gair yn 'i erbyn o fynd i'r North. Ella na fasa hyn ddim wedi digwydd petae ni wedi mynd hannar blwyddyn yn ôl."
"Pidwch a wilia shwd ddwli," ebe Morgan Hopcyn, "fyse wedi câl yr anap hyn ble bynnag y byse fe. (Y Sul cynt y taerai Morgan Hopcyn yn yr Ysgol Sul yn erbyn Arfaeth.) A fydd raid i chi ddim poeni dim, e fydd y coliars yn biwr i gwala i chi."
Fe wyddai Elin Robaits hynny'n iawn er yr adeg y cafodd John lid ar yr ysgyfaint.
"Chi fyddwch yn ôl reit, a nawr wi am fynd i moyn Rachel 'co i ddod lan i gadw cwmpni i chi, wath ma nhw'n meddwl mynd a John i'r Hospital. Dyna fydde ore mynte'r Doctor achos ma dolur bach itha seriws ar i gôs e."
**** Nos Fawrth wedyn eisteddai Elin Robaits wrth y tân, newydd gyrraedd adref o'r ysbyty lle y buasai y diwrnod hwnnw a'r diwrnod cynt. Yr oedd amryw o gymdogesau yno, wedi galw i ofyn am ei gŵr. Yr oedd hithau yn falch iawn o'u gweled. Ond yr oedd rhywbeth arall ar